Pam mae Dewch i Arbed Dŵr yn bodoli
Rydyn ni'n dod â phobl, busnesau a'r diwydiant dŵr at ei gilydd i weithredu nawr.
Darganfyddwch beth gallech chi ei wneudEin nod - arferion normal newydd i bawb
Os bydd pob un ohonon ni yng Nghymru yn arbed 38 litr o ddŵr y dydd, neu 28 litr o ddŵr y dydd (dau fwcedaid o ddŵr) yn Lloegr, bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ac nid er ein lles ni'n unig fydd hyn. Byddwn ni'n gwneud gwahaniaeth i genedlaethau'r dyfodol.
Dyna yw nod ymgyrch Dewch i Arbed Dŵr. Arferion normal newydd sy'n diogelu'r ffordd o fyw rydyn ni i gyd yn ei rhannu ac yn sicrhau bod digon o ddŵr ar gael i'r rhai fydd yn ein dilyn ni.
Gallwn ni wneud hyn. Gyda'n gilydd.
Gwnewch arbed dŵr y normal newydd ar draws Cymru a Lloegr.
Helpwch bawb i arbed ond 28 litr y dydd.
Gwarchodwch ein ffordd o fyw a'i adfer ar gyfer cenhedloedd y dyfodol.

Sialens i'w rhannu
Mae dŵr yn werthfawr. Er mwyn ei ddiogelu, mae angen i ni i gyd ddefnyddio llai.
Rydyn ni am gyrraedd pobl ym mhob man: unigolion, cartrefi, gweithleoedd, cymunedau.
Rydyn ni'n troi tystiolaeth yn ddealltwriaeth, a dealltwriaeth yn weithredu bob dydd. Dydyn ni ddim yn gofyn i neb wneud popeth. Rydyn ni'n gofyn i bawb wneud rhywbeth.
Oherwydd gyda phawb yn chwarae eu rhan, bydd y rhannau'n cyfrannu at rywbeth sy'n para.
Mae'r sector cyfan yn ein cefnogi
Mae Dewch i Arbed Dŵr yn ymgyrch newid ymddygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac a arweinir gan y gynulleidfa, wedi'i chynllunio i helpu pobl ledled Cymru a Lloegr i werthfawrogi a defnyddio dŵr yn wahanol er lles y cyhoedd.
Mae'n cael ei chefnogi gan reoleiddwyr a chwmnïau dŵr.
Oherwydd pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd, byddwn ni’n arbed mwy.

Yn barod i chwarae eich rhan?
Cysylltwch hefo ni ar y dolenni isod am bopeth o ymholiadau wasg i becynnau partneriaeth. Dewch i wneud hwn gyda'n gilydd. Dewch i Arbed Dŵr.
Cyfryngau
[email protected]Partneriaid
[email protected]