Let's Save Water

Mae dŵr yn werthfawr.
Er mwyn ei ddiogelu, mae angen i ni i gyd ddefnyddio llai.

Mae'r cyfan yn gwneud gwahaniaeth. Mae hinsawdd newidiol a galw cynyddol am ddŵr eisoes yn gwneud ein cyflenwadau dŵr yn llai dibynadwy ar gyfer pobl a byd natur. Ond gallwn ni newid pethau. Pobl, busnesau a'r diwydiant dŵr. Pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd.

Map of England

Yn Lloegr, maen nhw'n defnyddio dŵr yn gyflymach nag y gall natur ei gyflenwi.

Map of Wales

Yng Nghymru, mae hafau sychach a gaeafau gwlypach yn rhoi pwysau ar ein cyflenwad dŵr.

5+ biliwn litr

Os byddwn ni'n parhau i ddefnyddio dŵr fel rydyn ni'n ei wneud ar hyn o bryd, gallen ni fod yn brin o bum biliwn litr o ddŵr y dydd yn Lloegr erbyn 2055.

Pum gwaith cymaint

Rydyn ni i gyd yn defnyddio mwy o ddŵr nag rydyn ni'n ei feddwl. Mae'r person cyffredin yn amcangyfrif eu bod yn defnyddio 30 litr y dydd; mewn gwirionedd mae'n agosach at 140 litr.

O litr i litr

Bydd arbed 28 litr (sef llenwi sinc cegin) yn Lloegr neu 38 litr (3 bwcedaid o ddŵr) yng Nghymru fesul unigolyn, bob dydd yn sicrhau bod digon o ddŵr ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Mae gan bawb ran i'w chwarae

Mae'r diwydiant dŵr yn buddsoddi biliynau er mwyn trwsio gollyngiadau, uwchraddio'r seilwaith a chynyddu'r cyflenwad, ond mae mwy i'w wneud eto.

A dyna lle mae angen i ni wneud ein rhan

All buddsoddi ei hun ddim datrys y broblem. Mae angen i bob un ohonon ni wneud ein rhan. Gall y dewisiadau bach, bob dydd sy'n cael eu gwneud mewn cartrefi a gweithleoedd wneud gwahaniaeth mawr.

Beth allwch chi ei wneud

Mae arbed dŵr yn dechrau yma. Does dim angen i chi ailwampio'r ffordd rydych chi'n byw. Dechreuwch gyda cham bach heddiw. A phan fyddwch chi'n barod, gwnewch newid bach arall.

Dechreuwch heddiw

  • Cwtogwch eich cawod

    Dylsai cyfanswm o bedwar munud ei gwneud hi. Mae gosod amserydd yn haws nag yw'n ei swnio.

  • Trwsiwch y gollyngiadau

    Mae tap sy'n gollwng yn gallu gwastraffu hyd at 15 litr y dydd, tra bod toiled sy'n gollwng yn colli 400 litr y dydd.

Amnewidiadau Syml

  • Newidwch y piben dŵr am fwced neu gan dyfrio

    Mae'n gwneud yr un swydd ond yn defnyddio llai o ddŵr.

  • Defnyddiwch bowlen golchi fyny

    Os mae'n cymryd mwy na munud i olchi llestri, mi wnewch chi arbed dŵr gyda bowlen

  • Ewch Modd Eco ar eich dyfeisiau

    Mae modd eco ar eich peiriant golchi llestri neu peiriant golchi yn medru arbed hyd at 10 litr y dydd.

Cynlluniwch o flaen llaw

  • Sefydlwch toiled fflysh-ddeuol

    Gallent arbed hyd at 42 litr y dydd.

  • Uwchraddiwch pen eich cawod

    Gall pen arbed dŵr go iawn hanneru'ch defnydd dŵr.

Gall eich cwmni dŵr eich helpu chi hefyd.

Mae cyngor doeth a chymorth ymarferol ar sut i arbed dŵr ar gael gan eich cwmni dŵr

Dewiswch eich cwmni dŵr

Ymgyrch wedi'i chefnogi gan y diwydiant cyfan.

Mae Dewch i Arbed Dŵr yn ymgyrch ledled Cymru a Lloegr sy'n newid y ffordd mae cymdeithas yn meddwl am ddŵr ac yn ei ddefnyddio. Mae'r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan gwmnïau a rheoleiddwyr dŵr. Mae pawb yn chwarae eu rhan.

Dyma pwy sy'n rhan o'r ymgyrch